Saesneg yn y byd. Glas tywyll: gwledydd/ardaloedd lle iaith y mwyafrif ydy'r Saesneg. Glas golau: gwledydd/ardaloedd lle iaith swyddogol ond nid iaith y mwyafrif ydy'r Saesneg.
Iaith frodorol Lloegr ydyw Saesneg (Saesneg: English). Mae'n un o ddwy iaith swyddogol Cymru (ynghyd â'r Gymraeg) yn ogystal, ac yn un o ieithoedd mwyaf y byd.
Datblygodd y Saesneg o iaith llwythau Germanaidd ag ymsefydlodd ym Mhrydain rhwng y bumed a'r seithfed ganrif gan ddisodli iaith a diwylliant y Brythoniaid brodorol o rannau helaeth o dde Prydain a chreu'r teyrnasoedd Eingl-Sacsonaidd. Erbyn y ddegfed ganrif 'roedd y teyrnasoedd hyn wedi uno i greu teyrnas Lloegr. Lledodd y Saesneg drwy'r byd yn sgîl anturiaethau imperialaidd y Saeson a arweiniodd at greu gwladfeydd Seisnig mewn sawl rhan o'r byd.
Oherwydd ei lle fel iaith mwyafrif yr Unol Daleithiau, mae'r Saesneg wedi dod yn brif iaith y byd ar gyfer cyfathrebu rhyngwladol. Dysgir Saesneg fel ail iaith yn fwy nag unrhyw iaith arall, ond y ffurf Americanaidd ar yr iaith a ddysgir yn amlach na'r ffurf Seisnig.
Mae llenyddiaeth Saesneg yn un o'r llenyddiaethau mwyaf yn y byd, a'i gwreiddiau'n gorwedd yn y cyfnod Eingl-Sacsonaidd. Mewn canlyniad i'r dirywiad yn nifer y siaradwyr Cymraeg a'r Seisnigeiddio yn y wlad, mae gan Gymru ei llenyddiaeth Saesneg hefyd: ysgrifennodd Dylan Thomas ei storïau a'i gerddi yn Saesneg, er enghraifft.
Ymadroddion
- Saesneg: English
- Pa hwyl: Hello
- Bore da: good morning
- Hwyl Fawr: goodbye
- Os gwelwch yn dda: please
- Diolch: thank you
- Cymraeg: Welsh
- Sut mae?: Alright?
- Sut ydych chi?: How are you?
- Rydw i'n: I am
- Ble mae'r ysgol?: Where's the school?
- Ble mae'r ysbyty?: Where's the hospital?
Gramadeg Saesneg
Mae gramadeg yr iaith Saesneg yn weddol debyg i'r Gymraeg i'w chymharu â'r Tsieiniaidd er enghraifft, gan fod y ddwy iaith yn dod o'r teulu Indo -Ewropeaidd. Serch hyn mae gramadeg yr ieithoedd Romawns a'r Almaeneg llawer yn fwy tebyg i Saesneg nag ydyw i'r Gymraeg.
Gweler hefyd
Questions for article:
|