|
Rhywogaeth o bysgodyn dŵr croyw o deulu'r Salmonidae (neu'r eog) yw'r Gwyniad (Coregonus clupeoides pennantii). Fe'i ceir yn Llyn Tegid yng Nghymru yn unig. Cred rhai fod y Gwyniad yn is-rywogaeth o Coregonus lavaretus a geir mewn rhai rhannau o Ewrop, yn enwedig Rwsia. Treulia'r Gwyniad y rhan fwyaf o'i amser mewn dwfr dwfn, a dim ond pan maent yn dodwy eu wyau y maent yn dod i ddŵr bas yn agos i'r lan. Mynegwyd pryder am ddyfodol y rhywogaeth yn y blynyddoedd diwethaf, oherwydd diffyg ocsigen yn nyfroedd dyfnaf y llyn a ffactorau eraill. Yn 2003 dechreuwyd cynllun i ddal y pysgod pan font yn barod i ddodwy eu wyau a chymeryd yr wyau i safle arall, lle gobeithir sefydlu poblogaeth newydd. |
This article is from Wikipedia. All text is available under the terms of the GNU Free Documentation License.