|
Article in other languages:
|
Anffyddiaeth yw’r gred nad yw Duw na duwiau yn bodoli. Mae anffyddiaeth yn athroniaeth yn hytrach na bod yn grefydd.
Cyfystyron
Bwdïaeth
Prif erthygl: Bwdïaeth
Er bod Bwdïaeth yn ei ffurf glasurol yn grefydd heb dduw fel y cyfryw, mae e'n cael ei ystyried gan rai fel math o agnosticiaeth. Fe fydd yr anffyddiwr arferol yn prin gredu mewn unrhywbeth ysbrydol neu oruwchnaturiol. Er hynny, fe fydd rhai, yn enwedig ymhlith yr Hindwiaid a'r Mwslimiaid, yn ystyried Bwdïaeth yn ffurf ar anffyddiaeth. Anffyddiwr cryfAnffyddiwr cryf yw rhywun sy wedi penderfynu bod bodolaeth Duw neu duwiau yn ddiresymol. Mae anffyddiwr cryf yn ddiysgog bod dim Duw na duwiau, a ni allent fodoli. Anffyddiwr gwanDywedir bod un sydd erioed wedi meddwl llawer am fodolaeth Duw na duwiau yn anffyddiwr gwan. Byddai rhai yn ymresymu hefyd fod plentyn newyddanedig sydd heb gael awgrym o ddwyfoldeb yn anffyddiwr gwan. Er hynny, mae yna gred gyfochrog fod crefydd yn gynhenid i natur dyn. Anffyddiwr difaterAnffyddiwr difater yw rhywun sy’n malio dim os ydy Duw yn bodoli neu beidio. Fe fydd anffyddiwr difater yn gweithredu felly, fel petai dim Duw ac mae’n debyg eu bod wedi cael llawer o helynt yn y gorffennol am beidio cydymffurfio. Safbwynt anffyddiwrSafbwynt anffyddiwr yw, bod y cyfanfyd yn esboniadwy mewn termau naturyddol a gwyddonol, a bod Duw neu duwiau yn amhosibl. Mae’r anffyddiwr yn gweld crefydd fel dim ond ofergoeliaeth, ac felly yn dueddol i fod yn oddefgar at bob crefydd heb ragfarn. Ar y llaw arall, fe fydd yr anffyddiwr yn casáu'r math o ffwndamentaliaeth sy'n dilyn ar ffugwyddoniaeth neu wrthddeallaeth, a hefyd yn brawychu dros y rhai sy’n rhyfela a lladd yn enw eu duwiau. Mae'r rhan fwyaf o anffyddwyr yn ddyneiddwyr hefyd. Questions for article: |
This article is from Wikipedia. All text is available under the terms of the GNU Free Documentation License.
IHS Europe: Infrared Heating Systems for Home and Business.